The Hygge Way of Learning
We embrace the Danish secret to happiness, creating a cozy sanctuary where children feel safe, seen, and inspired. Through simple joys and natural play, we nurture curious minds in a warm, parent-trusted environment that feels just like home.
Dysgu trwy Dull Hygge
Rydyn ni’n croesawu cyfrinach hapusrwydd Denmarc, gan greu hafan gynnes a chysurus lle mae plant yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu gweld ac yn cael eu hysbrydoli. Trwy fwynhau pleserau syml a chwarae naturiol, rydyn ni’n meithrin meddyliau chwilfrydig mewn amgylchedd cynnes a chroesawgar y mae rhieni ’n ymddiried ynddo – lle mae’n teimlo’n union fel adref.


Hygge yn Joio- Byw ein gwerthoedd Hygge bob dydd
Yn Joio, dydy Hygge ddim yn rhywbeth rydyn ni’n credu ynddo yn unig — mae’n rhywbeth rydyn ni wedi’i blethu’n fwriadol i mewn i ffordd mae ein meithrinfa’n edrych, yn teimlo ac yn gweithredu bob dydd.
Rydyn ni’n hynod falch o fod wedi ennill Achrediad Hygge yn y Blynyddoedd Cynnar, sy’n cydnabod ein hymrwymiad i greu amgylcheddau a phrofiadau meithringar, ystyrlon a phwrpasol i blant. Ar hyn o bryd, Joio yw’r unig feithrinfa yn Abertawe sydd â’r achrediad hwn, ac rydyn ni’n falch iawn o hynny.
Rydyn ni hefyd wedi cwblhau Achrediad Hygge Baby, gan ein galluogi i ymestyn yr egwyddorion hyn i’n plant lleiaf a sicrhau bod ein hymagwedd at gynhesrwydd, diogelwch, perthnasoedd, lles ac ymdeimlad o berthyn yn dechrau o’r cychwyn cyntaf ar daith plentyn gyda ni.
I ni, dydy’r achrediadau ddim yn ymwneud â bodloni set o safonau yn unig. Maen nhw’n adlewyrchu’r ffordd rydyn ni’n meddwl am ein hamgylcheddau, ein plant, ein staff, ein teuluoedd a’n cymuned Joio ehangach. Maen nhw wedi ein hannog i edrych yn ofalus ar y manylion bach sy’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr — o’r gofodau rydyn ni’n eu creu a’r adnoddau rydyn ni’n eu darparu, i’r perthnasoedd rydyn ni’n eu meithrin a’r profiadau rydyn ni’n eu rhannu gyda’n gilydd.
Mae Hygge bellach yn rhan o wead Joio, gan ddylanwadu ar y ffordd rydyn ni’n creu ein gofodau, yn cefnogi ein tîm, yn dathlu cerrig milltir, yn croesawu teuluoedd ac yn gwneud eiliadau bob dydd yn rhai arbennig.
Hygge at Joio-
Living our Hygge values every day
At Joio, Hygge is not simply something we believe in — it is something we have intentionally woven into the way our nursery looks, feels and operates every day.
We are incredibly proud to have achieved the Hygge in the Early Years Accreditation, recognising our commitment to creating nurturing, thoughtful and meaningful environments and experiences for children. Joio is currently the only nursery in Swansea to hold this accreditation, something we are incredibly proud of.
We have also completed the Hygge Baby Accreditation, allowing us to extend these principles to our youngest children and ensure that our approach to warmth, security, relationships, wellbeing and belonging begins from the very start of a child's journey with us.
For us, the accreditation is not simply about meeting a set of standards. It reflects the way we think about our environments, our children, our staff, our families and our wider Joio community. It has encouraged us to look closely at the small details that make a big difference — from the spaces we create and the resources we provide, to the relationships we build and the experiences we share together.
Hygge has become part of the fabric of Joio, influencing the way we create our spaces, support our team, celebrate milestones, welcome families and make everyday moments special.

The Hygge Approach
Ymagwedd Hygge

Nurturing Atmosphere
Awyrgylch Meithringar
We create a calm, restful space where children feel safe and cherished, providing the emotional security they need to explore with confidence.
Rydyn ni’n creu gofod tawel a llonydd lle mae plant yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu caru, gan roi’r sicrwydd emosiynol sydd ei angen arnyn nhw i archwilio’r byd o’u cwmpas gyda hyder.

Natural Exploration
Archwilio’n Naturiol
Inspired by bilingual Welsh heritage and nature, children engage with tactile materials like wood and wool, sparking curious minds through sensory play.
Wedi’i ysbrydoli gan dreftadaeth ddwyieithog Cymru a’r byd naturiol, mae plant yn archwilio deunyddiau cyffyrddol fel pren a gwlân, gan ysgogi eu chwilfrydedd drwy chwarae synhwyraidd.

Simple Joys
Llawenydd Syml
Daily life at Joio celebrates balance and meaningful connections, ensuring every child develops social skills and joy at their own natural pace.
Mae bywyd bob dydd yn Joio yn dathlu cydbwysedd a chysylltiadau ystyrlon, gan sicrhau bod pob plentyn yn datblygu ei sgiliau cymdeithasol ac yn mwynhau llawenydd ar ei gyflymder naturiol ei hun.

A Sanctuary of Calm
Our nursery is more than a space; it is a warm, bilingual sanctuary designed for comfort and security. With soft natural textures and cozy nooks, children feel safely held as they navigate their day. Every corner invites curiosity, providing a predictable yet inspiring environment where little ones can explore freely and find simple joy in their everyday experiences.
Hafan o Lonyddwch
Mae ein meithrinfa’n fwy na gofod yn unig; mae’n hafan gynnes a dwyieithog sydd wedi’i dylunio i greu teimlad o gysur a diogelwch. Gyda gweadau naturiol meddal a chorneli clyd, mae plant yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu dal mewn gofal wrth iddyn nhw fynd drwy eu diwrnod.
Mae pob cornel yn annog chwilfrydedd, gan greu amgylchedd cyfarwydd a chyson ond sydd hefyd yn ysbrydoli, lle gall y rhai bach archwilio’n rhydd a dod o hyd i lawenydd syml yn eu profiadau bob dydd.
Nurturing a Bright Future
Meithrin Dyfodol Disglair
Our Hygge approach fosters secure emotional bonds, curiosity, and a sense of calm. Through natural play and warm mentorship, we prepare children to explore their worlds with confidence and joy, values that benefit their development for a lifetime.
Mae ein hymagwedd at Hygge yn meithrin bondiau emosiynol cryf a diogel, chwilfrydedd a theimlad o lonyddwch. Drwy chwarae naturiol a chefnogaeth gynnes gan oedolion sy’n gofalu amdanyn nhw, rydyn ni’n helpu plant i archwilio eu byd gyda hyder a llawenydd — gwerthoedd sy’n cefnogi eu datblygiad drwy gydol eu bywydau.