Our Locations Ein Lleoliadau
Meithrinfa Joio Day Nursery, Uplands

Our original home in Swansea, providing a nurturing bilingual environment where children can learn, play and grow. We offer a warm, Hygge-accredited space where natural play, creativity and early learning thrive. With cosy, thoughtfully designed spaces and a strong connection to the outdoors, children are encouraged to explore the world around them with curiosity and confidence. Welsh and English are naturally woven throughout everyday life, creating a joyful environment where every child feels safe, valued and at home. We care for children from birth to 12 years old, offering a welcoming and inclusive environment for every stage of their early years and childhood. We accept the 30 Hours Childcare Offer for Wales, Tax-Free Childcare and Flying Start. For older children, we also offer school transport to a variety of local ysgolion, alongside our After School Club and Holiday Club, based in our own separate, dedicated Holiday Club building. This provides children with a familiar, welcoming space to relax, play and enjoy time with their friends before and after school and throughout the school holidays. We are proud to be a multi-award-winning nursery, rated Excellent in all areas by Care Inspectorate Wales (CIW), reflecting our commitment to providing exceptional care, learning and experiences for every child.
Ein cartref gwreiddiol yn Abertawe, gan ddarparu amgylchedd dwyieithog cynnes a gofalgar lle gall plant ddysgu, chwarae a thyfu. Rydym yn cynnig gofod cynnes sydd wedi’i achredu gan Hygge, lle mae chwarae naturiol, creadigrwydd a dysgu yn ystod y blynyddoedd cynnar yn ffynnu. Gyda gofodau clyd sydd wedi’i dylunio’n ofalus a chysylltiad cryf â’r awyr agored, mae plant yn cael eu hannog i archwilio’r byd o’u cwmpas gyda chwilfrydedd a hyder. Mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn rhan naturiol o’n bywyd bob dydd, gan greu amgylchedd llawen lle mae pob plentyn yn teimlo’n ddiogel, yn cael ei werthfawrogi ac yn gartrefol. Rydym yn gofalu am blant o’u genedigaeth hyd at 12 oed, gan ddarparu amgylchedd croesawgar a chynhwysol ar gyfer pob cam o’u blynyddoedd cynnar a’u plentyndod. Rydym yn derbyn Cynnig Gofal Plant Cymru 30 Awr, Gofal Plant Di-dreth a Dechrau’n Deg. Ar gyfer plant hŷn, rydym hefyd yn cynnig cludiant ysgol i amrywiaeth o ysgolion lleol, ynghyd â’n Clwb ar ôl Ysgol a’n Clwb Gwyliau, sydd wedi’u lleoli yn ein hadeilad Clwb Gwyliau pwrpasol ar wahân. Mae hyn yn rhoi gofod cyfarwydd a chroesawgar i blant ymlacio, chwarae a mwynhau amser gyda’u ffrindiau cyn ac ar ôl yr ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol. Rydym yn falch o fod yn feithrinfa sydd wedi ennill nifer o wobrau ac sydd wedi cael ei graddio’n Rhagorol ym mhob maes gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarparu gofal, dysgu a phrofiadau o’r safon uchaf i bob plentyn.
Joio Casllwchwr, Loughor

Our branch site in Casllwchwr, bringing the Joio approach to the heart of the local community. We offer a nurturing bilingual environment with a focus on natural play, meaningful experiences and confident early development. Based within Casllwchwr Primary School, we provide a welcoming space where children can learn, explore and build strong connections with their community. Welsh and English are part of everyday life at Joio, helping children experience the joy of bilingualism from an early age. We care for children from 2 to 12 years old, offering flexible childcare and wraparound options to support families from the early years through to primary school. We accept Flying Start funding and the 30 Hours Childcare Offer for Wales, alongside our wraparound and After School Club provision. Our wraparound and school-age care provides children with a familiar and welcoming place to spend time before and after school, where they can relax, play, socialise and enjoy being part of the Joio community. We are proud to bring our multi-award-winning Joio approach to Casllwchwr, creating a warm, inclusive environment where children feel safe, valued and confident to learn, grow and belong.
Ein safle yn Casllwchwr, gan ddod ag ethos a dull Joio i galon y gymuned leol. Rydyn ni’n cynnig amgylchedd dwyieithog, cynnes a meithringar, gyda ffocws ar chwarae naturiol, profiadau ystyrlon a datblygiad hyderus yn y blynyddoedd cynnar. Wedi’i leoli yn Ysgol Gynradd Casllwchwr, rydyn ni’n darparu lle croesawgar lle gall plant ddysgu, archwilio a meithrin cysylltiadau cryf â’u gymuned. Mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn rhan o fywyd bob dydd yn Joio, gan helpu plant i brofi llawenydd bod yn ddwyieithog o oedran cynnar. Rydyn ni’n gofalu am blant rhwng 2 a 12 oed, gan gynnig opsiynau gofal plant a gofal cofleidiol hyblyg i gefnogi teuluoedd o’r blynyddoedd cynnar hyd at oedran ysgol gynradd. Rydyn ni’n derbyn cyllid Dechrau’n Deg a Chynnig Gofal Plant Cymru 30 Awr, ynghyd â’n darpariaeth gofal cofleidiol a’n Clwb ar ôl Ysgol. Mae ein gofal cofleidiol a’n gofal ar gyfer plant oedran ysgol yn rhoi lle cyfarwydd a chroesawgar i blant dreulio amser cyn ac ar ôl yr ysgol, lle gallan nhw ymlacio, chwarae, cymdeithasu a mwynhau bod yn rhan o gymuned Joio. Rydyn ni’n falch o ddod â’n dull Joio sydd wedi ennill nifer o wobrau i Casllwchwr, gan greu amgylchedd cynnes a cynhwysol lle mae plant yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn hyderus i ddysgu, tyfu a theimlo eu bod yn perthyn.